Текстов песен в базе: 1 278 222
Rhagluniaeth Ysgafn

Rhagluniaeth Ysgafn

Gruff Rhys

Текст песни

O dyro i mi
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
A phan ddaw’r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i’r achosion da
Ac er yr holl deithio
Y llwgr-wobrwyo
Y cyffuriau caled
Y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino
Ar fy mhwdr areithio
Yr holl ddanteithio
Fy mrad o iaith y nef
Y rhegi cyhoeddus
Y lluniau anweddus
Fy nghabledd o flaen y groes
Yr hunan-dosturi
Y cwrw a’r miri
Fy ofer-ymffrostio
Tra’n rhostio yn y gwledydd poeth
A phan ddaw’r cyfweliad
Erfynaf am fynediad
Drwy lidiart y nefoedd
I’r cyfoeth ar yr ochr draw
A chym i ystyriaeth
Er gwaethaf fy mhechodau
Fy holl rinweddau
Sy’n rhifo ar un llaw
Ond beth bynnag dy farn
Erfynaf am
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw
Поделиться ссылкой:
Короткая ссылка: https://tekstpesni.ru/s/2PAN

Тексты других песен исполнителя

© 2017–2025 Тексты песен
Все тексты песен на сайте размещены пользователями, редакцией или собраны из открытых источников.
При копировании материалов ссылка на сайт обязательна.
Связаться
Уважаемые обладатели прав на музыку! На сайте не выкладывается музыка, ее нельзя скачать, послушать и тому подобное.